I have created a variety of different artworks that consists of paintings, sculptures, and illustration style pieces. In the past I have created various abstract pieces looking at the ideas surrounding colour theory and experimentation with colour. I would investigate how different combinations of colours affect each other and the way in which colour itself can affect the reaction of audience towards a piece of work. In the past I have also had some work develop into sculptural pieces which was a new interesting way of creating pieces in a more 3D sense.

The artwork I am currently working on is more personal to me, it’s got more emotion within it and consists around the way I have been feeling throughout this new way of life because of the recent lockdown. My work is a personal response to the emotions of everyday life when I was stuck within my house for a few months cause of the global pandemic. I have been creating illustrations and acrylic paintings surrounding the theme of daydreaming and the emotions of feeling trapped and longing to be elsewhere but truly unable to make this happen. Have been using photography and collage to help me develop and generate the ideas for my recent work and taking these and creating the final pieces, focusing on using portraits to convey the human emotions that I’m feeling. I have also been including the ideas of inner and outer self within these pieces, trying to show how a person can put up a front and look like they’re happy and feeling amazing but on the inside their struggling and finding it hard to cope. I will portray this with collaged images or paintings within drawings showing the inner coming forth towards the outer self.


Rwyf wedi creu amrywiaeth o waith celf gwahanol sy’n cynnwys paentiadau, cerfluniau a darnau wedi’u darlunio. Yn y gorffennol, rwyf wedi creu darnau haniaethol amrywiol gan edrych ar syniadau’n ymwneud â theori lliw ac arbrofi â lliw. Byddwn yn ystyried y ffordd mae gwahanol gyfuniadau o liwiau yn effeithio ar ei gilydd, a’r ffordd y gall lliw ei hun effeithio ar ymateb cynulleidfa i ddarn o waith. Yn y gorffennol rwyf hefyd wedi datblygu peth gwaith yn gerfluniau a oedd yn ffordd newydd ddiddorol o greu darnau mewn ffordd fwy 3d.

Mae’r gwaith celf rwy’n ei greu ar hyn o bryd yn fwy personol imi; mae mwy o emosiwn ynghlwm wrtho ac mae’n ymwneud â’r ffordd rwyf wedi bod yn ei theimlo yn sgil y ffordd newydd hon o fyw yn ystod y cyfnod clo diweddar. Mae fy ngwaith yn ymateb personol i emosiynau bywyd beunyddiol pan oeddwn i yn y tŷ bob awr o’r dydd a’r nos am ychydig fisoedd oherwydd y pandemig byd-eang. Rwyf wedi bod yn gwneud darluniau a phaentiadau acrylig ar y thema breuddwydio a’r emosiynau sydd ynghlwm wrth deimlo dan orfod, gan ysu bod rywle arall ond yn methu â gwneud i hyn ddigwydd. Rwyf wedi bod yn defnyddio ffotograffiaeth a collage i’m helpu i ddatblygu a chreu’r syniadau ar gyfer fy ngwaith diweddar, gan gymryd y rhain a chreu’r darnau terfynol, wrth ganolbwyntio ar ddefnyddio portreadau i gyfleu’r emosiynau dynol rwy’n eu teimlo. Rwyf hefyd wedi bod yn cynnwys elfennau’r hunan mewnol ac allanol yn y darnau hyn, gan geisio dangos sut y gall rhywun ffugio gwên ac edrych fel petai pob dim yn iawn ond y tu mewn mae’n ei chael hi’n anodd ymdopi. Dangosaf hyn drwy ddefnyddio paentiadau neu ddelweddau collage o fewn darluniau sy’n dangos yr hunan mewnol yn ymlwybro tuag at yr hunan allanol.

Link to webiste

Instagram: @mared_art